Skip to content

Yr Arolwg Ordnans – partner geo-ofodol dibynadwy’r byd

Rydym yn falch o ddatblygu safle Prydain fel cenedl geo-ofodol sy’n arwain y byd.

Cawn ein hysgogi i lunio data lleoliad ar lefelau o fanylder a chywirdeb na chânt eu creu yn unman arall. Nawr, rydym yn sicrhau bod ein data ar gael yn gyflymach, er mwyn galluogi penderfynwyr mewn llywodraeth a busnes i ymdrin â chymhlethdodau byd sy’n newid.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn creu, cynnal a dosbarthu gwybodaeth fanwl am leoliadau ar gyfer Prydain. Mae’n weithrediad enfawr i gadw’r miliynau o nodweddion geo-ofodol ym mhrif fap yr Arolwg Ordnans (OS) yn gyfoes. Ynglyn â’r Arolwg Ordnans

Siop a GetOutside

Archwiliwch Prydain Fawr gyda’n mapiau hamdden, cyfarpar awyr agored, dyfeisiau System Leoli Fyd-eang (GPS) a mwy. Ein cenhadaeth yw helpu rhagor o bobl i fynd allan i’r awyr agored yn amlach.

Cefnogi’r llywodraeth

Mae dros 5,000 o sefydliadau sector cyhoeddus ledled Prydain yn defnyddio data’r Arolwg Ordnans er budd y cyhoedd.

Mapiau etholiadol

Defnyddiwch ein mapiau etholiadol ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i olrhain daearyddiaeth etholiadol y DU.