Yr Arolwg Ordnans – partner geo-ofodol dibynadwy’r byd

Rydym yn falch o ddatblygu safle Prydain fel cenedl geo-ofodol sy’n arwain y byd

Cawn ein hysgogi i lunio data lleoliad ar lefelau o fanylder a chywirdeb na chânt eu creu yn unman arall. Nawr, rydym yn sicrhau bod ein data ar gael yn gyflymach, er mwyn galluogi penderfynwyr mewn llywodraeth a busnes i ymdrin â chymhlethdodau byd sy’n newid.

  • Yr hyn a wnawn

    Rydym yn creu, cynnal a dosbarthu gwybodaeth fanwl am leoliadau ar gyfer Prydain. Mae’n weithrediad enfawr i gadw’r miliynau o nodweddion geo-ofodol ym mhrif fap yr Arolwg Ordnans (OS) yn gyfoes. Ynglyn â’r Arolwg Ordnans.

  • Siop a GetOutside

    Archwiliwch Prydain Fawr gyda’n mapiau hamdden, cyfarpar awyr agored, dyfeisiau System Leoli Fyd-eang (GPS) a mwy. Ein cenhadaeth yw helpu rhagor o bobl i fynd allan i’r awyr agored yn amlach.

  • Cefnogi’r llywodraeth

    Mae dros 5,000 o sefydliadau sector cyhoeddus ledled Prydain yn defnyddio data’r Arolwg Ordnans er budd y cyhoedd.

  • Mapiau etholiadol

    Defnyddiwch ein mapiau etholiadol ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i olrhain daearyddiaeth etholiadol y DU.