Mae Cynllun Iaith Gymraeg Arolwg Ordnans yn disgrifio sut byddwn yn glynu at yr egwyddorion a bennwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg fel y bo’n briodol ac yn rhesymol ymarferol. Mae hyn i sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn cwmpasu gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’r cyhoedd yng Nghymru.
Paratowyd y cynllun hwn o dan Adran 21 y Ddeddf – ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 9 y Ddeddf.