Polisi enwau Cymraeg

Rydym yn cefnogi a hwyluso defnydd o’r Gymraeg trwy ddefnyddio ffurf enwau Cymraeg yn briodol

Sut mae Arolwg Ordnans yn cefnogi a hwyluso defnydd o’r Gymraeg

Byddwn:

  • yn cefnogi Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a sefydlodd yr egwyddor fod y Gymraeg a’r Saesneg i’w trin ar y sail eu bod yn gyfartal mewn bywyd cyhoeddus, a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a sefydlodd yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, gan gydnabod hefyd y cyfyngiadau sy’n bodoli mewn rhywfaint o’n cynnyrch mapio.
  • yn ymdrechu i gael cysondeb a chywirdeb wrth ddefnyddio ffurf enwau ym mhob cyfres o fapiau a’i hystod o gynnyrch
  • yn cydnabod pob un o’r 29 o lythrennau’r wyddor Gymraeg a’r llythrennau acennog sy’n perthyn iddynt, ond yn cadw’r hawl i gofnodi llythrennau deugraff fel dwy lythyren ar wahân yn y Gronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol (NGD)
  • yn sicrhau bod ffurfiau safonol swyddogol, defnydd cyffredin a thystiolaeth a geir drwy ffurfiau hanesyddol yn cael eu hystyried wrth bennu sillafiad a/neu ffurf enw;
  • yn ceisio cael awdurdod priodol, trwy gorff gosod safonau a gydnabyddir yn eang, am ffurf enwau Cymraeg ond, yn achos anghytundeb, cadw hawl olygyddol derfynol i sicrhau mapiau a chynnyrch sy’n dderbyniol o ran cartograffeg

Ni fyddwn:

  • yn gweithredu fel yr Awdurdod ar gyfer enwau Cymraeg; nac
  • yn newid i’r Gymraeg unrhyw enwau sydd wedi cael eu Seisnigeiddio, neu fel arall, ar awdurdod unrhyw unigolyn

Mae Arolwg Ordnans yn gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i bennu enwau yn yr amgylchedd adeiledig.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi llunio rhestr o holl enwau lleoedd Cymru (rhestr o enwau lleoedd safonol Cymru).

Download the Welsh names policy in Welsh

Enwau ym Mapiau’r Arolwg Ordnans

Cwestiynau ac atebion.

Beth yw rôl yr Arolwg Ordnans o ran yr enwau lleoedd sy’n ymddangos ar ei fapiau?

A ninnau’n wasanaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr, rydym yn gyfrifol am waith arolygu a mapio topograffaidd (trefniant nodweddion ffisegol naturiol ac artiffisial ardal) swyddogol y wlad.

Trwy’r gwaith hwn, rydym yn casglu set o ddisgrifiadau ac enwau priod/codau post adeiladau, lleoedd a nodweddion ac wedyn yn sicrhau eu bod ar gael trwy ein cynhyrchion a’n gwasanaethau. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn diffinio ac yn categoreiddio enwau ar gael isod.

Rydym yn defnyddio enwau a ddefnyddir ar hyn o bryd, gan fod amrywiaeth o ddefnyddwyr allweddol, fel y gwasanaethau brys a darparwyr cyfleustodau, yn dibynnu arnynt.

Sut mae’r Arolwg Ordnans yn casglu enwau lleoedd?

Yr Arolwg Ordnans yw gwasanaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr, ond nid yw’n awdurdod ar enwau lleoedd. Fodd bynnag, gan nad oes corff unigol ym Mhrydain Fawr sy’n gyfrifol am hyn, mae’n ofynnol i ni, trwy ein Tasg Gyhoeddus, gasglu enwau lleoedd awdurdodol (yn ogystal ag anodiadau disgrifiadol, nodweddion, a/neu godau post adeiladau) sy’n ymddangos ar ein mapiau wedi hynny. Rydym yn gwneud y gwaith hwn trwy gasglu tystiolaeth gan ein timau arolygu a gwybodaeth a ddarperir gan ffynonellau awdurdodol ledled y wlad.

Mae ffynhonnell awdurdodol yn unrhyw unigolyn, sefydliad neu gofnod swyddogol y mae’r Arolwg Ordnans yn cydnabod ei fod yn gallu darparu’r enw a ddefnyddir ar gyfer lleoliad penodol (gweler isod am enghreifftiau).

Er mwyn penderfynu pa enw y dylid ei roi ar le, byddwn yn gwneud ymholiadau ac yn ymgynghori â’r ffynonellau hyn i gadarnhau, gyda chymaint o sicrwydd â phosibl, yr enw, y ffurf, a’r sillafiad mwyaf addas ar gyfer pob lle a ddangosir ar ein mapiau.

Pan fydd gennym y wybodaeth hon, caiff ei hychwanegu at ein cronfa ddata fel bod ein mapiau’n dangos darluniad o leoliad, a’r enw sy’n gysylltiedig â’r lleoliad hwnnw.

Bydd llawer o’r enwau ar ein mapiau wedi cael eu casglu dros ganrifoedd lawer ac, yn aml, ni fyddant wedi newid ers iddynt gael eu cofnodi gyntaf.

Sut mae’r Arolwg Ordnans yn diffinio enwau priod ac enwau brodorol?

Enw priod yw hwnnw a roddir ar nodwedd, adeilad neu le i’w gwahaniaethu/wahaniaethu oddi wrth nodweddion neu leoedd tebyg.

Llysenw lleol yw enw brodorol. E.e. ‘The Pregnant Pin’ yn hytrach na Thŵr Spinnaker yn Portsmouth.

Mae gan rai nodweddion fwy nag un enw priod, er enghraifft, Blencathra neu Saddleback. Weithiau, mae’r rhain yn yr un iaith, ond gan amlaf byddant mewn ieithoedd gwahanol. Gall ein polisïau ar enwau Cymraeg a Gaeleg roi rhagor o wybodaeth am y prosesau a ddilynwn i sicrhau bod yr enwau hyn yn cael eu cofnodi a’u dangos yn gywir yn ein mapiau.

Sut mae’r Arolwg Ordnans yn categoreiddio enwau a pha awdurdodau a ddefnyddir?

Ceir dau fath o enw.

Enwau yn yr Amgylchedd Adeiledig yw’r rhai hynny sy’n dynodi nodwedd o wneuthuriad dyn fel tŷ, fferm neu adeilad hanesyddol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y ffynonellau awdurdodol ar gyfer yr enwau hyn yn syml. Er enghraifft, fe allai ein harolygwyr godi enwau oddi ar arwyddion neu gyfeiriadau stryd a’u cofnodi ar ein cronfa ddata, neu fe allai awdurdodau lleol (cynghorau) ddarparu gwybodaeth sy’n cael ei lanlwytho i’n cronfa ddata trwy ein proses awtomataidd, ymhlith ffynonellau eraill.

Yr enwau eraill yw’r rhai hynny a geir yn yr Amgylchedd Naturiol. Gan nad oes “perchennog” amlwg ar gyfer llawer o nodweddion naturiol yn aml, rydym yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o ffynonellau awdurdodol fel awdurdodau parciau cenedlaethol, tirfeddianwyr, awdurdodau lleol (cynghorau) a grwpiau cymunedol lleol i sicrhau bod yr enwau ar y nodweddion hyn yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a’u bod mor gywir â phosibl.

Sut mae’r Arolwg Ordnans yn penderfynu pa enwau a ddangosir ar ei fapiau?

Wrth benderfynu pa enw i’w gofnodi ar gyfer lle, stryd neu adeilad, cawn ein harwain yn bennaf gan ddefnydd ac arferion lleol. Y flaenoriaeth yw bod yr enwau’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Weithiau, defnyddir mwy nag un enw ar nodwedd unigol yn lleol, ac mewn achosion pan fydd dau enw’n cael eu defnyddio’n ddigon mynych yn lleol, mae’n bosibl y bydd angen cofnodi a/neu ddangos y ddau ar ein mapiau. Adwaenir y rhain fel lleoedd ag ‘enw deuol’.

Sut mae’r Arolwg Ordnans yn ymdopi ag enwau dwyieithog?

Cydnabyddwn fod defnydd swyddogol a chymunedol o’r Gymraeg a’r Gaeleg yng Nghymru a’r Alban yn golygu ein bod yn aml yn darparu enwau deuol oherwydd gallai’r ddau gael eu defnyddio gan y cyhoedd a chael eu harddangos ar arwyddion. Mae lleoedd a adwaenir yn Gymraeg, Gaeleg neu Saesneg yn unig yn cael eu cofnodi â’r enw hwnnw, ac ni ddarperir enw deuol.

Gall ein polisïau ar enwau Cymraeg a Gaeleg roi rhagor o wybodaeth am y prosesau a ddilynwn i sicrhau bod yr enwau hyn yn cael eu cofnodi a’u dangos yn gywir yn ein mapiau.

Mae llawer o ieithoedd eraill yn cael eu defnyddio ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys Cernyweg, Gwyddeleg a Sgoteg yr Iseldir, a gydnabyddir gan y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, ond nad ydynt yn cael eu cofnodi fel enwau deuol yn nata’r Arolwg Ordnans gan nad ydynt yn destun deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Mewn rhai achosion pan fydd yr unig enw a ddefnyddir yn un o’r ieithoedd hyn, ac mae bod ffynhonnell awdurdodol yn cadarnhau’r enw a ddefnyddir yn yr iaith honno, byddai’r Arolwg Ordnans yn ychwanegu’r enw hwnnw at ein mapiau.

A yw’r Arolwg Ordnans yn newid enwau?

Ni all yr Arolwg Ordnans benderfynu newid enw ar ei ben ei hun. Mae unrhyw newidiadau anfynych a wnawn fel arfer o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan gyrff awdurdodol. Mae enghreifftiau’n cynnwys Wootton Bassett yn dod yn Royal Wootton Bassett, Staines yn dod yn Staines Upon Thames a Charnedd Uchaf yn dod yn Garnedd Gwenllian. Fe allai newidiadau eraill gael eu gwneud pan na fydd enw’n cael ei ddefnyddio mwyach, neu pan fydd enw newydd yn cael ei ddefnyddio.

Yn rhai o’n cynhyrchion, bydd angen i’r Arolwg Ordnans wneud penderfyniadau ynglŷn â’r testun a ddangosir weithiau, yn enwedig ar ein mapiau papur poblogaidd nad ydynt yn cynnwys llawer o le ar gyfer testun cartograffig. Fel y cyfryw, ni ellir dangos pob enw ar y cynhyrchion hyn er eu bod wedi’u cofnodi ar ein cronfa ddata.

Mae’r mater hwn yn llai perthnasol i’n cynhyrchion digidol, a gallwn gynnwys llawer mwy o fanylion i gwsmeriaid. Dylid nodi y gallai enwau ymddangos ar rai haenau o’n mapiau yn unig, yn dibynnu ar y raddfa a’r cynnyrch a ddefnyddir (er enghraifft, nid yw Ap Mapiau’r Arolwg Ordnans yn cynnwys yr holl haenau mapio a gynhyrchwn).

Os cyflwynir enw neu os gwneir newid, byddem yn disgwyl iddo ymddangos ar ein cynhyrchion mapio digidol yn gynt o lawer nag ar ein mapiau papur, a fydd yn cael eu diweddaru pan argraffwn fersiynau newydd.

Rwy’n credu bod gwall enwi ar eich map. Sut galla’ i roi gwybod amdano?

Mae’r Arolwg Ordnans yn ceisio bod mor gywir â phosibl o ran yr enwau lleoedd a ddangosir ar ein mapiau, ond cydnabyddwn fod gwallau diffuant yn gallu digwydd weithiau.

Gellir adrodd am wallau trwy wefan yr Arolwg Ordnans a byddwn yn falch o ymchwilio.

Sylwch nad yw’r Arolwg Ordnans yn gallu gorfodi perchnogion eiddo i ddiwygio enw.

Wrth edrych ar nodweddion naturiol, fel bryniau, llynnoedd neu goetir, byddem yn ymchwilio i wallau yr adroddwyd amdanynt gyda chymorth parciau cenedlaethol, awdurdodau lleol a chyrff eraill perthnasol (fel Comisiynydd y Gymraeg yng Nghymru neu Ainmean-Àite na h-Alba (AÀA) yn yr Alban).

Gwybodaeth gysylltiedig

  • Cynllun Iaith Gymraeg

    Sut rydym yn darparu ein gwasanaethau i’r cyhoedd yn Gymraeg.

  • Siaradwch â ni yn Gymraeg

    Os hoffech siarad â ni yn Gymraeg, mae ein canolfan gyswllt Gymraeg yma i ateb eich ymholiadau.

  • Yr Arolwg Ordnans

    Yr Arolwg Ordnans – partner geo-ofodol dibynadwy’r byd. Rydym yn falch o ddatblygu safle Prydain fel cenedl geo-ofodol sy’n arwain y byd.