Yr hyn a wnawn yn yr Arolwg Ordnans (OS)

Bob dydd, gwnawn 20,000 o ddiweddariadau i’n cronfa ddata, sy’n dal 500 miliwn o nodweddion geo-ofodol ar Gymru, Lloegr a’r Alban.

Mae creu, cynnal a dosbarthu gwybodaeth fanwl ar gyfer Prydain Fawr yn weithrediad anferthol. Rydym yn cadw 500 miliwn o nodweddion yn gyfredol ym mhrif fap yr Arolwg Ordnans.

Mae gan ddata lleoliad y pŵer i greu cyfleoedd newydd a chyffrous wrth i ni symud tuag at gymdeithas ddigidol gysylltiedig. Defnyddiwn ein data a’n harbenigedd gwerthfawr, a adeiladwyd ers dros 225 o flynyddoedd o brofiad, i gyfrannu at lwyddiant Prydain a chenhedloedd eraill yn y dyfodol.

Rydym yn mireinio ein data’n barhaus er mwyn cyflwyno golwg ddigidol gywir, gan gyflenwi i fusnesau a’r sector cyhoeddus. Rydym yn hwyluso penderfyniadau pwysig a fydd yn mynd ymlaen i wella ansawdd bywyd cenedlaethau’r dyfodol.

Data lleoliad amser real

Cyflawnir newidiadau cyfaint uchel i’n cronfa ddata drwy synhwyro o bell, sef rhaglen ddwys o gipio newidiadau gydag awyrluniau a dynnir gan ein Huned Hedfan a chyflenwyr allanol. Mae’r delweddau diffiniad uchel a geir drwy hyn yn cael eu troshaenu â data mapiau presennol ar sgrîn, er mwyn gwirio lle mae nodweddion wedi newid. Wedyn, gellir nodi diweddariadau gwib a’u cynnwys yn ein data.

Hefyd, mae synhwyro o bell yn galluogi mapio cywir iawn mewn ardaloedd sy’n anodd eu cyrchu, ac felly gellir casglu data yn effeithlon dros ardaloedd mawr.

Yn ogystal, mae ein 230 o syrfewyr yn casglu gwybodaeth fanwl am leoliadau gan ddefnyddio offer arbenigol ac OS Net, sef ein rhwydwaith cenedlaethol o orsafoedd System Llywio â Lloeren Fyd-eang (GNSS). Mae hyn yn sail i’r mapio mwyaf manwl ac a ddiweddarir yn fwyaf aml yn y byd.

Mae’r diweddariadau hyn i’r brif gronfa ddata yn ein galluogi i greu ystod o gynhyrchion data sy’n gyson a chyfredol ar gyfer Prydain Fawr, gan gynnwys ein map digidol mwyaf manwl, sef yr OS MasterMap gyda’i Haen Topograffi; delweddau digidol eglur iawn; modelau 3D o nodweddion tirwedd a gwedd; a rhwydweithiau ffyrdd a dŵr.

Hefyd, rydym yn archwilio ffyrdd newydd o gipio nodweddion manylach fyth yn y dirwedd, yn enwedig ar lefel y stryd, megis polion lampau a safleoedd bysiau, er mwyn cefnogi cymunedau craffach. Mae hyn yn cynnwys tirfesur gan ddefnyddio cerbydau ar y tir, defnyddio cerbydau awyr di-griw, a lloerennau ffug uchel. Yn ogystal, byddwn yn parhau i gydweithio â chyflenwyr data trydydd parti.

Gweithio â busnesau

Mae data lleoliad yn gyrru twf ar draws pob sector. Credwn mai dyma fydd y tanwydd i bweru economi ddigidol y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau ynni, cyfleustodau, eiddo, manwerthu a chyllid yn troi at ein data er mwyn galluogi effeithlonrwydd yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu ar gyfer eu cwsmeriaid.

Rydym yn helpu i gadw trafnidiaeth i lifo, a sicrhau bod nwyddau a brynir ar-lein yn cael eu cludo at y drws, ac mae ein gwaith yn sail i bob gwerthiant eiddo ym Mhrydain Fawr.

Mae ein rôl o ran cefnogi twf diwydiannol yn cynyddu. Mae prosiectau seilwaith mwyaf y genedl yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio data manwl a dibynadwy yr Arolwg Ordnans. Mae cynllunwyr HS2 a Crossrail yn defnyddio ein data oherwydd y gellir dibynnu arnynt o ran eu cywirdeb.

Ar y cyd â'n Partneriaid, mae ein gwaith arloesol yn cefnogi diwydiant, ac yn darganfod ffyrdd craffach o ddatrys problemau cymhleth, ledled y byd.

Ein gwaith â marchnadoedd

Gweithio â’r sector cyhoeddus

Mewn cymunedau ledled Prydain Fawr, mae ein gwaith yn galluogi cymdeithas ddiogel, iach a ffyniannus. Defnyddir ein data gan dros 5,000 o sefydliadau sy’n gweithio er lles y cyhoedd mewn meysydd fel tai, yr amgylchedd naturiol, trafnidiaeth gysylltiedig a diogelwch cenedlaethol.

Ceir ymddiriedaeth yn ein data i gefnogi polisi a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar bob lefel o lywodraeth. O’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, lle rydym yn darparu data lleoliad hanfodol sy’n helpu i fonitro datblygiad tai newydd, i wasanaethau brys, lle defnyddir ein data i gydlynu cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl ac ymateb iddynt yn well.

Mae strategaethau Diwydiannol a Digidol y llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd data lleoliad ar gyfer ein heconomi yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn cefnogi’r Arolwg Ordnans, ymhlith eraill, i ganolbwyntio ar ble y gall data daearyddol a gofodol wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â heriau allweddol sy’n wynebu’r llywodraeth a dinasyddion.

Wrth weithio gyda phartneriaid ledled y llywodraeth, rydym yn helpu i roi ‘lle’ wrth wraidd economi gysylltiedig y DU yn y dyfodol.

Gweithio â’r sector cyhoeddus

Ein cyrhaeddiad rhyngwladol

Rydym yn gweithio â gwledydd ledled y byd. Defnyddiwn ein harbenigedd a’n gallu i gefnogi datblygu cynaliadwy a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus effeithlon – gan wella ansawdd bywyd i filiynau o bobl.

Rydym yn cynnig gwasanaethau cynghori, gan weithio â sefydliadau, llywodraethau ac asiantaethau mapio cenedlaethol eraill i wella llunio polisi a chynyddu galluoedd geo-ofodol. Rydym yn dangos sut mae cyrff cyhoeddus Prydain Fawr yn defnyddio’r un ymagwedd tuag at ddata a safonau geo-ofodol i arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn; lleihau allyriadau carbon; gwneud y penderfyniadau gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth; a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol a chynllunio datblygiadau newydd.

Ein gwaith rhyngwladol

Cysylltwch â ni

I gysylltu â ni, anfonwch neges e-bost at customerservices@os.uk neu ffoniwch ein llinell gymorth Gymraeg ar 03456 050504.