Drwy ein cymwysiadau ar y we, gallwch gael mynediad i fapiau etholiadol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r rhain yn dangos yn glir yr etholaethau etholiadol yn erbyn graddfeydd mapio gwahanol. Bydd y cymwysiadau gwe yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n gynrychiolydd etholedig, yn ymgeisydd neu’n weithiwr plaid. Gallwch ddewis amrywiaeth o ffiniau gweinyddol ac etholiadol y gellir eu troshaenu ar y mapiau.