Cefnogi’r llywodraeth

Mae dros 5,000 o sefydliadau sector cyhoeddus ledled Prydain yn defnyddio data’r Arolwg Ordnans (OS) er budd y cyhoedd

Defnyddir data mapio geo-ofodol i gefnogi datblygiadau tai newydd, i ddiogelu ein hamgylchedd, i lywio cynllunio trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol ac i helpu’r gwasanaethau diogelwch i gadw’r wlad yn ddiogel.

Dibynnir ar ein data i gefnogi polisi a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar lefel mynediad y llywodraeth. O Lywodraeth Cymru’n defnyddio cynhyrchion yr Arolwg Ordnans i helpu gyda phroffilio’r gwasanaethau agosaf ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – i wasanaethau brys – lle defnyddir ein data i gydlynu cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl ac ymateb iddynt yn well.

Mae strategaethau Digidol Diwydiannol y llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd data lleoliad ar gyfer ein heconomi yn y dyfodol. Sefydlwyd Comisiwn Geo-ofodol i helpu’r Arolwg Ordnans ymhlith eraill i ganolbwyntio ar ble y gall data daearyddol a data gofodol wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â heriau allweddol sy’n wynebu’r llywodraeth a dinasyddion.

Wrth weithio gyda phartneriaid ledled y llywodraeth, rydym yn helpu i roi ‘lle’ wrth wraidd economi’r DU yn y dyfodol.

Gweithio yn y sector cyhoeddus? Dysgwch ragor

Gallwch ddarllen rhagor am:

  • Sut y gallwch gael gafael ar ddata’r Arolwg Ordnans a pha gynhyrchion sydd ar gael i chi – bydd angen i chi lofnodi cytundeb mapio. Gall aelodau sydd eisoes wedi ymrwymo i gytundeb mapio fewngofnodi i ardal yr aelodau i gael diweddariadau ac i archebu data.
  • Sut mae sefydliadau eraill yn defnyddio data’r Arolwg Ordnans i wella effeithlonrwydd.
  • Y sefydliadau sector cyhoeddus sydd eisoes yn defnyddio data’r Arolwg Ordnans.
  • Y grwpiau cwsmeriaid y mae’r Arolwg Ordnans wedi’u sefydlu i sicrhau ein bod yn cyflawni gwerth ac yn bodloni amcanion strategol y sector cyhoeddus.

Rhagor am yr Arolwg Ordnans yn cefnogi’r llywodraeth

Cysylltwch â ni

I gysylltu â ni, anfonwch neges e-bost at customerservices@os.uk neu ffoniwch ein llinell gymorth Gymraeg ar 03456 050504.