Arolwg o safle’r cais i’r Gofrestrfa Tir

Rhowch fanylion i ni er mwyn ein helpu i gynnal arolwg y gofynnwyd amdano gan Gofrestra Tir EF

I gefnogi cais i gofrestru tir, mae Cofrestrfa Tir EF wedi gofyn i ni gynnal arolwg annibynnol i wirio a dilysu manylion mapiau’r Arolwg Ordnans.

Mae ein syrfewyr yn gwneud yn siŵr bod gwaith mapio’r Arolwg Ordnans yn adlewyrchu’r amgylchedd adeiledig yn gywir, gan ychwanegu diweddariadau a chofnodi unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae Cofrestrfa Tir EF yn gofyn amdani.

I’n helpu ni i gynnal yr arolwg yn llwyddiannus, a fyddech cystal â nodi’r manylion isod?

Dim ond ar y cyd â chais ‘byw’ gan weithiwr achos CTEF y dylai’r ffurflen hon gael ei defnyddio. Ar gyfer ymholiadau eraill, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Ar ddiwrnod yr arolwg, cadwch unrhyw anifeiliaid anwes a allai beri perygl, ac anifeiliaid eraill yn ddiogel ar wahân, a chlirio unrhyw beryglon yn gysylltiedig â’r tir ac unrhyw adeiladau (neu ddeunyddiau neu sylweddau ynddynt).

Os bydd angen mynediad ychwanegol, bydd ein syrfewyr yn cysylltu â chi cyn yr arolwg.

Ni fydd ein syrfewyr yn cynnal yr arolwg os ydynt yn credu mai plentyn (sef person o dan 18 oed) yw’r unig berson sy’n bresennol.

Mae ein syrfewyr yn cario cardiau adnabod ac yn fwy na hapus i’w dangos ar gais.

I gael manylion am eich cais, cysylltwch â’ch cyfreithiwr neu weithiwr achos CTEF, oherwydd ni fydd gan ein syrfewyr wybodaeth fanwl am eich cais ac felly ni fyddant yn gallu cynnig sylwadau ar unrhyw agweddau arno, yn enwedig materion perchnogaeth.